Adroddiad Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol.
2013-2014
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi
Datganiad gan y Cadeirydd
Rwy’n ddiolchgar i aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol am fy ethol fel eu Cadeirydd cyntaf, ac am eu cyfranogiad brwd i drafodaethau’r Grŵp. Rydym wedi ystyried pynciau amrywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae ein trafodaethau wedi rhoi dirnadaethau newydd a gwahanol i faterion fel cyflogau cyfartal a rhwystrau i lwyddiant. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r tîm yn Chwarae Teg am eu gwaith wrth gynorthwyo i drefnu ein cyfarfodydd.
Christine Chapman AC
1. Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.
Christine Chapman AC (Cadeirydd)
Jocelyn Davies AC
Janet Finch-Saunders AC
Eluned Parrott AC
Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan;
Dr Alison Parken, Prifysgol Caerdydd
Shirley Rogers, Gyrfa Cymru
Joy Kent, Chwarae Teg
Christine O’Byrne (Chwarae Teg)
Dr Rachel Bowen, Ffederasiwn y Busnesau Bach
Helen Humphrey, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
2. Cyfarfodydd Blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.
Cyfarfod 1.
Dyddiad y cyfarfod: 23 Hydref 2013
Yn bresennol: Christine Chapman AC, Llafur (Cadeirydd)
Jocelyn Davies AC, Plaid Cymru
Janet Finch-Saunders AC, Ceidwadwyr
Eluned Parrott AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
Laura Dunn, swyddfa Rosemary Butler AC
Victoria Evans, Swyddfa Christine Chapman AC
Ian Johnson, Plaid Cymru
Osian Lewis, Swyddfa Alun Ffred Jones AC
Dr Rachel Bowen, Rheolwr Polisi Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach
Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
Christine O’Byrne, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Chwarae Teg (Ysgrifennydd)
Helen Reed, Swyddog Cefnogi Polisi, Chwarae Teg
Shirley Rogers, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Gyrfa Cymru
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Rhannwyd y prif ganfyddiadau o waith ymchwil gan Chwarae Teg, "Lle y Fenyw", a thrafodwyd hwy, gan gynnwys:
· Mae anghydraddoldeb y tu allan i’r gweithle yn creu anghydraddoldeb o fewn iddo.
· Mae stereoteipiau pwerus yn parhau o ran swyddi priodol ar gyfer dynion a menywod.
· Cyflogaeth yw’r norm i fenywod, ond eto nid ydym wedi cyflawni cydraddoldeb.
· Mae rhagor o fenywod yn gweithio, ond yn gweithio rhan-amser.
· Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau.
· O ran sgiliau a chynnydd, mae merched yn perfformio’n well na bechgyn yn yr ysgol ac mae rhagor o fenywod wedi cymhwyso i lefel 4 yng Nghymru, ond eto mae menywod yn dal i grynhoi mewn swyddi sy’n gofyn am lai o sgiliau ac sy’n talu cyflogau isel.
· Parheir i ystyried menywod yn ofalwyr yn gyntaf ac yn enillwyr yn ail, ac er bod rhagor o gyfleoedd i weithio’n hyblyg, mae’r diffyg gofal plant fforddiadwy yn dal i gael ei ystyried fel y rhwystr mawr i gyflogaeth lawn-amser.
· Yn nodedig, ymddengys nad oedd 25% o’r menywod a holwyd yn cael arfer eu hawliau statudol, ac ymddengys nad oedd 15% o gyflogwyr wedi bodloni eu cyfrifoldebau statudol.
Cyfarfod 2.
Dyddiad cyfarfod: 5 Chwefror 2014
Yn bresennol: Christine Chapman AC, (Cadeirydd)
Mohammad Asghar AC
Julie Morgan AC
Joyce Watson AC
Laura Dunn, swyddfa Rosemary Butler AC
Robin Lewis - Swyddfa Christine Chapman AC
Sian Mule, swyddfa Julie Morgan AC
Neil Ronconi-Woollard, swyddfa Julie James AC
Elizabeth Laird – Ymchwilydd i David Melding AC
Joy Kent, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
Christine O’Byrne, Rheolwr Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg
Anne Howells, Cydgysylltydd Polisi, Chwarae Teg
Dr. Alison Parken, Uwch Gymrawd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
Emma Richards, Chwarae Teg
Alison Howe, Cynghorydd Gyrfaoedd, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu
Kate Attwood, Hyrwyddwr Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu
Emma Saunders, Suterra
Alex Tranter, Tai Ceredigion
Dr Rachel Bowen, Ffederasiwn y Busnesau Bach
Nina Prosser, Ymddiriedolaeth y Tywysog
Hannah Blythyn, Unite
Belinda Robertson, Unite
Rebecca Newsome, Ymddiriedolaeth y Tywysog
Helen Humphrey, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Rachel Maude, BT
Catrin Owen, Tai Ceredigion
Charlotte James- Prifysgol Abertawe
Shirley Rogers, Gyrfa Cymru
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Y pwnc ar gyfer y cyfarfod hwn oedd arwahanu ar sail rhyw a chyflog cyfartal.
Y siaradwyr gwadd oedd Dr Alison Parken, Emma Richards, Alison Howe, Kate Atwood, Emma Whitworth ac Alex Tranter.
Nodwyd yn ystod y drafodaeth:
· Bod angen gwell dealltwriaeth o ran pam nad yw menywod yn dod i weithio ym maes diwydiant/ am gael eu dyrchafu.
· Y gellid cael un man penodol ar gyfer cael gwybodaeth am gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.
· Mae cyflogau isel mewn rolau rhan-amser yn ffactor sy’n cyfrannu at dlodi mewn gwaith.
· Ni fydd y cyflog byw yn gwneud llawer o wahaniaeth.
· Mae credyd cynhwysol yn broblem hefyd.
· A fyddai modd sicrhau telerau ac amodau gwell drwy gaffael?
· Prif ffrydio ymwybyddiaeth o gydraddoldeb rhwng y rhywiau i hyfforddiant athrawon, y gwasanaeth gyrfaoedd ac ati, a sicrhau y caiff y gweithwyr hyn eu datblygu’n barhaus yn eu proffesiynau.
· Dylai gofalu, a materion o ran gweithio’n rhan amser gynnwys ac ystyried gofalu am aelodau hŷn yn y teulu hefyd.
· A fyddai’n bosibl cyfeirio doniau sydd ar gael yng Nghymru, yn hytrach na dod a gweithwyr o’r tu allan?
· Mae angen dull gweithredu holistaidd o ran prentisiaethau, tiwtoriaid a mentoriaid benywaidd.
Hefyd, cytunodd y grŵp ar gamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru:
Cyfarfod 3.
Dyddiad cyfarfod: 4 Mehefin 2014
Yn bresennol: Christine Chapman AC, (Cadeirydd)
Jocelyn Davies AC
Julie James AC
Ioan Bellin, Swyddfa Simon Thomas AC
Laura Dunn, swyddfa Rosemary Butler AC
Robin Lewis - Swyddfa Christine Chapman AC
Mark Major, Swyddfa Suzy Davies AC
Neil Roncon-Woodward, swyddfa Julie James AC
Katy Chamberlain, Business in Focus
Natasha Davies, Chwarae Teg
Ruth Davies, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhiannon Hedge, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
Anne Howells, Chwarae Teg
Helen Humphrey, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Norma Jarboe, Mae Menywod yn Cyfrif
Dr Barrie Kennard, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru
Joy Kent, Chwarae Teg
Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Alison Parken, WAVE (Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi) Prifysgol Caerdydd
Amy Preece, Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth
Nina Prosser, Ymddiriedolaeth y Tywysog
Kieron Rees, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
Jessica Rumble, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
Beth Titley, Gyrfa Cymru
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Y pwnc ar gyfer y cyfarfod hwn oedd arweinyddiaeth a chynnydd.
Y siaradwyr gwadd oedd: Dr Barrie Kennard, Rhiannon Hedge, Joy Kent, Helen Humphrey ac April McMahon.
Nodwyd yn ystod y drafodaeth:
· Bod angen mynd i’r afael â diffyg hyder, a pherthynas hyn â dyrchafiadau.
· Rhagfarn anymwybodol, a bod angen i rai sy’n cyfweld sefyll y prawf cyn cynnal cyfweliadau.
· Er bod cwotâu yn amhoblogaidd, efallai bod eu hangen arnom fel mesur dros dro, nes y bydd gennym feritocratiaeth.
· Mae angen gofyn i’r sector preifat wneud yr un fath â’r sector cyhoeddus.
· Angen mynd i’r afael â’r mater o gynnydd mewn gwaith rhan-amser.
· Gall y defnydd o iaith fod yn rhwystr a pheri bod swyddi yn ymddangos yn wrywaidd.
· A oes angen gair gwahanol ar gyfer cwotâu? “Cynrychiolaeth deg” o bosibl.
· Mae adroddiad yr Arglwydd Davies yn defnyddio iaith nodau uchelgeisiol, ac yn gosod nodau ar gyfer amrywiaeth. Mae angen hyrwyddwr a dulliau meincnodi tryloyw.
· Mae ofn na fydd amrywiaeth yn dilyn, oni bai ein bod yn mynd i’r afael â materion amrywiaeth yn ehangach, yn ogystal â materion rhyw.
· Mae dyletswydd i ryddhau ystadegau am faterion rhywedd a materion amrywiaeth eraill.
· Beth a gawn gan y prif gyflogwyr yng Nghymru? Sut y dylem gael y prif gyflogwyr o’n plaid? E.e. Admiral.
· Mae’n bwysig bod y Grŵp Trawsbleidiol yn cyfrannu at faniffestos y pleidiau.
Hefyd, cytunodd y grŵp ar gamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru:
CITB, SgiliauAdeiladu, Unedau 4 a 5, Canolfan Fusnes Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd David, Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SH
Tai Ceredigion Cyf, Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan,
Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion,
SA48 7HH
Ymddiriedolaeth y Tywysog, Ocean Way, Caerdydd
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN), Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd, CF24 5JW
Mae’r sefydliadau hyn wedi cymryd rhan yng nghyfarfodydd y grŵp drwy gydol y flwyddyn.
Datganiad Ariannol Blynyddol.
2013-2014
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod yn yr Economi
Christine Chapman AC
Christine O’Byrne (Chwarae Teg)
Treuliau’r Grŵp.
|
Dim. |
£0.00 |
Costau'r holl nwyddau.
|
Dim nwyddau wedi’u prynu. |
£0.00 |
Budd-daliadau a dderbyniwyd gan y grŵp neu gan Aelodau unigol o gyrff allanol.
|
Ni chafwyd budd-daliadau. |
£0.00 |
Unrhyw gefnogaeth i’r ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.
|
Ni chafwyd cefnogaeth ariannol. |
£0.00 |
Gwasanaethau a ddarperir i’r Grŵp, fel lletygarwch.
Talwyd am y lluniaeth a’r cyfleusterau cyfieithu gan Chwarae Teg.
|
||
Dyddiad |
Disgrifiad ac enw’r darparwr
|
Cost |
|
Arlwyo Gwasanaeth Arlwyo Charlton House |
£404.82 |
|
Cyfieithu Testun |
£504.38 |
Cyfanswm costau
|
£909.20 |